Rhannir gwybodaeth a newyddion pwysig isod
Hydref 2026
Pistyll – Ymgynghoriad ar enw hanesyddol y ffordd (Lôn Groes / Bwlch y Gwynt)
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw dydd Sul, 8 Tachwedd 2026.
Ffurflen ymgynghori Gymraeg:
https://drive.google.com/file/d/1pQYVKIFkLNEdjqhCVx7stMxluJwUrEnt/view?usp=drivesdk
Mae hi wedi dod yn amlwg dros y blynyddoedd diwethaf i aelodau Cyngor Cymuned Pistyll fod yr enw Bwlch y Gwynt wedi cael ei fabwysiadu’n raddol fel enw’r ffordd, tra bod ei hen enw hanesyddol, Lôn Groes, yn prysur gael ei anghofio.
Mae’n anodd iawn gwybod yn union pryd na sut y digwyddodd y newid hwn yn swyddogol, ond rwyf wedi clywed sôn ei fod o bosibl wedi digwydd rywbryd yn ystod yr 1980au.
Fel rhywun sydd wedi cael ei fagu ym Mhistyll ac sy’n dal i fyw yma heddiw, rwy’n teimlo’n bersonol ei bod hi’n hynod bwysig ein bod ni’n cael cyfle i leisio ein barn ar y mater hwn, a sicrhau nad yw hanes ac enw gwreiddiol y ffordd yn cael eu colli.
Sut i roi eich barn
Byddem yn gwerthfawrogi’n fawr cael clywed eich barn, p’un a ydych chi o blaid y newid arfaethedig neu’n dymuno cadw’r enw presennol.
Os oes gennych ychydig funudau i’w sbario, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech lenwi’r ffurflen ymgynghori a’i dychwelyd drwy e-bost at:
cynghorydd.jinagwyrfai@gwynedd.llyw.cymru
clerc@ccpistyll.cymru
gethinjones@ccpistyll.cymru
Neu, os yw’n haws, gallwch roi eich ffurflen wedi’i chwblhau yn uniongyrchol i Gethin, William neu Osian.
Copïau papur a chasglu ffurflenni
Os hoffech gael copi papur, cysylltwch â mi a byddaf yn hapus iawn i drefnu un.
Bydd y Cynghorydd Jina Gwyrfai hefyd yn ymweld â Phistyll ddydd Sul, 8 Tachwedd 2026, i gasglu’r ffurflenni, ond mae croeso i chi eu rhoi i mi unrhyw bryd hefyd.
Byddai’n wych cael clywed gan gynifer o drigolion lleol â phosibl. Beth bynnag fo’ch barn, mae eich cyfraniad yn bwysig a bydd yn helpu i lywio’r penderfyniad.
Diolch yn fawr iawn am gymryd yr amser i ddarllen hwn ac am eich cefnogaeth.
Diolch,
Gethin Jones
Pistyll – Consultation on the historic road name (Lôn Groes / Bwlch y Gwynt)
The deadline for responses is Sunday 8 November 2026.
English consultation form:
https://drive.google.com/file/d/1Mh_gv_9IYAUw5aNowdEiXN3nm70YfnGo/view?usp=drivesdk
For a number of years, members of Pistyll Community Council have become increasingly aware that the name Bwlch y Gwynt has gradually been adopted for the road, while its historic name, Lôn Groes, is slowly being forgotten.
It is difficult to establish exactly when or how this change officially happened, although I have heard that it may have taken place sometime during the 1980s.
As someone who grew up in Pistyll and still lives here today, I personally feel that it is extremely important that we have our say on this matter and ensure that the history and original name of this road are not forgotten.
How to have your say
We would really appreciate hearing your views, whether you support the proposed change or would prefer to keep the current name.
If you have a few minutes to spare, I would be very grateful if you could complete the consultation form and return it by email to:
cynghorydd.jinagwyrfai@gwynedd.llyw.cymru
clerc@ccpistyll.cymru
gethinjones@ccpistyll.cymru
Alternatively, you can hand your completed form directly to Gethin, William or Osian if that is easier.
Paper copies and form collection
If you would prefer a paper copy, please get in touch with me and I will happily arrange one.
Councillor Jina Gwyrfai will also be visiting Pistyll on Sunday 8 November 2026 to collect completed forms, but you are more than welcome to pass them on to me at any time.
It would be great to hear from as many local residents as possible. Whatever your opinion, your views matter and will help inform the decision.
Many thanks for taking the time to read this and for your support.
Diolch,
Gethin Jones
Medi 2026
Mae Cyngor Cymuned Pistyll yn falch iawn i gyhoeddi bod Bethan Thomas wedi eu hethol i’r set wag yn Cyngor Cymuned Pistyll.
Mai 2026
Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Pistyll 19/05/2026
Mawrth 2026
Mae Cyngor Cymuned Pistyll yn falch iawn i gyhoeddi bod Rhian Edwards wedi eu hethol i’r set wag yn Cyngor Cymuned Pistyll.
Awst 2025
Yn dilyn cyfweliad llwyddianus mae Cyngor Cymuned Pistyll yn falch iawn o gohoeddi bod Clerc newydd wedi benodi sef Dorothy Elen Howarth.
Ionawr 2026
CYNGOR CYMUNED PISTYLL
SEDD WAG ACHLYSUROL- WARD LLITHFAEN
RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN o 1 sedd wag achlysurol
mewn swydd cynghorydd ar Gyngor Cymuned Pistyll, ward Llithfaen.
Cynhelir etholiad i lenwi’r sedd wag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad sy’n cynnwys llofnod deg etholwr o’r wardiau uchod i’r: Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Gwener, 13 Chwefror, 2026.
Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y sedd wag gan y Cyngor Cymuned.
PISTYLL COMMUNITY COUNCIL
CASUAL VACANCY- LLITHFAEN WARD
NOTICE IS HEREBY GIVEN of 1 casual vacancy in the office of councillor on the Pistyll Community Council, Llithfaen ward.
An election will be held to fill the vacancy if a reques in writing for an election which includes the signatures of ten electors of the said wards is sent to: The Returning Officer, Gwynedd Council, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH within the period ending at 12 noon on Friday,
13 February, 2026.
In the absence of a request for an election, the vacancy will be filled by the Community Council.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Clerc y Cyngor / Clerk to the Council / Dated 26 Ionawr/ January 2026